Dosbarth Cadair Idris

Blwyddyn 3 a 4 y ffrwd Saesneg

Ein thema y tymor hwn yw ‘Dŵr i fyw. Yn ystod y tymor byddwn yn canolbwyntio ar Wyddoniaeth, gan ddysgu am gyflwr mater a’r cylch dŵr. Bydd y plant hefyd yn canolbwyntio ar y Celfyddydau Mynegiannol, gan greu dawnsfeydd a gwaith celf i ategu a dangos eu dealltwriaeth o’r cysyniadau yr ydym yn eu dysgu. Bydd y plant hefyd yn edrych ar y ffordd y mae gwahanol grefyddau’n defnyddio dŵr yn eu defodau a’u harferion.

Byddwn hefyd yn darganfod am afonydd, yn lleol ac yng Nghymru.

Bydd ein gwersi Addysg Gorfforol yn cael eu cynnal bob dydd Mercher. Bydd angen i’r plant wisgo’n briodol ar gyfer y tywydd, yn eu pecyn Addysg Gorfforol. Bydd ein dosbarth hefyd yn nofio y tymor hwn. Bydd gwersi yn cael eu cynnal yn y ganolfan hamdden ar ddydd Gwener rhwng 15 Medi a 8 Rhagfyr. Bydd angen i blant ddod â’u pecyn nofio i mewn ar y dyddiadau hyn.

 

 

Teachers –  Miss E Bowkett/ Mrs J Owens

Teaching Assistant – Mrs N Evans