Dosbarth Elan

Blwyddyn 3 a 4 Ffrwd Gymraeg

Croeso i Ddosbarth Elan!

Yn nosbarth Elan mae dwy athrawes yn dysgu ni.  Ar Ddydd Llun a Dydd Mawrth, Mrs Joseph-Morgan sy’n dysgu ni ac ar Ddydd Mercher tan Dydd Gwener, Mrs Williams sy’n dysgu ni. Rydym yn ffodus iawn bod Mrs Davies yn ein cynorthwyo hefyd.

 

Yn ystod y tymor, byddwn yn canolbwyntio ar Wyddoniaeth, yn dysgu am solidau, hylifau a nwyon a’r cylchred ddŵr. Bydd y plant hefyd yn ffocysu ar gelfyddydau creadigol, yn creu dawnsfeydd  a gwaith celf amrywiol sy’n dangos dealltwriaeth y plant o’r cysyniadau rydym yn dysgu. Byddwn hefyd yn edrych ar wahanol crefyddau sy’n defnyddio dŵr yn rhan o’u defodau ac arferion.

Addysg Gorfforol / Gemau

Bydd gwersi ymarfer corff pob dydd Iau a bydd gwersi nofio  hefyd y tymor yma.

 

 

 

Athrawon – Mrs Rh Joseph-Morgan / Mrs G Williams

Cynorthwy-ydd – Mrs S Davies