Dosbarth Gwy

Blynyddoedd 1 a 2 – Ffrwd Gymraeg

Dosbarth Gwy yw’r dosbarth Bl.1a 2 yn y  Ffrwd Gymraeg a enwir ar ôl Afon Gwy.

Mae ein gweithgareddau dysgu i gyd o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn seiliedig ar ein themau tymhorol. Gwneir rhai gweithgareddau mewn grwpiau ffocws gyda’r athrawes neu’r cynorthwy -ydd, ac mae eraill yn dasgau annibynnol a ddewisir gan y plant yn ystod Amser Enfys.

Mae dysgu yn yr awyr agored yn agwedd bwysig o’n gwaith a bob Dydd Iau – Dydd Iau ar y Cae – rydym yn mynd allan i wneud amrywiaeth o weithgareddau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Ein diwrnod Ymarfer Corff ydy Dydd Gwener a gall y plant ddod i’r ysgol yn eu dillad Ymarfer Corff.

Tymor yr Hydref 2023

Ein topig y tymor hwn ydy  ‘Dŵr i Fyw’ (Water of Life) ac rydym yn dysgu ble gwelir dŵr yn ein cynefin e.e. Afon Gwy (River Wye), Afon Irfon (Irfon River) a sut mae un yn llifo i’r llall. Byddwn hefyd yn dysgu am hanes Nant yr Arian ar waelod Ffordd yr Ysbyty.

Bydd stori’r Bachgen Bach Toes yn symbylu gweithgareddau iaith a gweithgareddau ar draws y cwricwlwm.

Yn Gwyddoniaeth, byddwn yn ymchwilio i arnofio a suddo, y cylchred ddŵr, a gwahanol cyflyrau o ddŵr – hylif, solid (rhew) a nwy (stêm).

Bydd ein Maths yn y topic yn cynnwys mesur cyfaint dŵr a thymheredd dŵr.

Byddwn yn dysgu am y seremoni Bedydd Cristnogol a’i chymharu â sut mae’r Sikhiaid yn datlu genedigaeth babi newydd.

Yn y Celfyddydau Mynegiannol, byddwn yn edrych ar waith yr arlunydd Helen Elliott, gan arbrofi gyda chymysgu lliwiau er mwyn creu lluniau tebyg. Bydd  Impelo Dance yn gwneud gweithdy dawns gyda ni hefyd.

Byddwn yn hyrwyddo pwysigrwydd yfed dŵr a defnyddion dŵr i ymolchi a brwsio dannedd yn y maes dysgu Iechyd a Lles.

Athrawes – Mrs M Davies

Cynorthwywyr – Mrs J Sullivan, Miss L Gittoes