Dosbarth Irfon

Derbyn a Blwyddyn 1 – Ffrwd Gymraeg

Croeso, i Ddosbarth Irfon. Enwir ein dosbarth ar ôl yr afon lleol, sef yr Irfon.

Eleni, Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 yw ein dosbarth.

Mrs Shân Price a Miss Emily Thomas yw ein cynorthwywyr addysgu.

Ein topig y tymor hwn yw ‘Dŵr i Fyw’.  Rydym yn dysgu am y gwahanol gyrff dŵr yn ein hardal leol e.e. Afon Gwy, Afon Irfon a Nant yr Arian. Byddwn yn dysgu hanes y Bachgen Bach Toes a thrwy Lleisio Llais bydd y plant yn meddwl am syniadau Amser Enfys eu hunain. Byddant hefyd yn ei newid i greu fersiwn wreiddiol eu hunain. Byddwn yn ymchwilio i arnofio a suddo, ac yn dysgu am y cylch dŵr. Byddwn hefyd yn dysgu ymadroddion mathemategol, yn gyntaf, ail, trydydd, yn dysgu am dymheredd ac yn  mesur dŵr. Byddwn yn dysgu am bwysau trwy bobi bisgedi sinsir!

Mae Ymarfer Corff ar Ddydd Gwener a gofynnir i’r plant ddod i’r ysgol yn eu gwisg Addysg Gorfforol. Trowsus ymarfer corff, siwmperi, crys-t, siorts , a esgidiau ymarfer corff (dibynnu ar y tywydd.)

Rydym yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored ond mae Dydd Iau ar y Cae (pnawn awyr agored) ar Ddydd Iau. Bydd angen trowsus tywydd gwlyb a siaced arnyn nhw. Esgidiau glaw, ac am y misoedd oerach sgarff a menig hefyd.

Athrawes – Miss B Williams

Cynorthwywyr – Mrs S Price, Miss E Thomas