Dosbarth Tryfan

Blwyddyn 5 a 6 – Ffrwd Saesneg

Croeso i dudalen Dosbarth Tryfan.

Croeso i dymor y Gwanwyn 2023. Ein thema’r tymor yw ‘Ein Ddaear, Ein Ynni’. Yn ystod y tymor, canolbwyntir ar y Gwyddoniaeth a Thechnoleg lle bydd y plant yn dyfnhau eu dealltwriaeth o drydan, golau a sain. Bydd y plant yn adeiladu cylchedau trydanol gwahanol ac yn darganfod y gellir cynhyrchu trydan gan ddefnyddio dulliau anghynaladwy a chynaliadwy. Byddant yn dysgu sut y gallwn ddefnyddio adnoddau ein planed yn effeithlon ac yn gynaliadwy i gynhyrchu trydan ac yn ymchwilio syt mae golau a sain yn teithio.

Ymarfer Corff

Bydd ein gwers Ymarfer Corff pob dydd Iau lle bydd y plant yn datblygu eu sgiliau dawns y tymor hwn. Gofynnwn i’r plant ddod i’r ysgol yn eu cit Ymarfer Corff bob dydd Iau. Bydd angen trowsus neu siorts arnynt, t – crys (dim fest na thopiau byr), siwmper gynnes ac esgidiau priodol. Am resymau iechyd a diogelwch, bydd angen i blant i dynnu eu clustdlysau yn ystod gwersi a dylid clymu gwallt hir yn ôl. Os nad yw’ch plentyn yn gallu cymryd rhan yn y wers am unrhyw reswm, anfonwch e-bost i esbonio pam.

Nofio

Bydd plant yn mynd i nofio’r tymor hwn. Bydd hyn yn digwydd bob bore Dydd Gwener. Cofiwch sicrhau bod y plant yn dod a’u cit gyda nhw bob wythnos a chot i gerdded lawr i’r pwll nofio gan fod y tywydd dal yn ansefydlog yr adeg hon o’r flwyddyn

 

Athrawes – Mrs J Owens

Cynorthwywyr – Mrs S Price & Mrs Z Burgess