Dosbarth Bryn Garth

Years 1 and 2 – English Stream

Croeso i’r Dosbarth Bryn Garth!

Ein hathrawes dosbarth ni yw Mrs Rachel Jones a’r cynorthwywraig dosbarth yw Mrs Cheryl Meadows.

Bydd y dysgu yn ein dosbarth yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n seiliedig ar brofiadau chwarae gyda’r plant yn gweithio mewn grwpiau bach, â grwpiauffocws (gyda’r athro neu’r TA yn arwain dysgu) neu’n gweithio’n annibynnol ar heriau a thasgau fel rhan o Amser Enfys (dysgu annibynnol dan arweiniad plant).

Y thema tymor hwn yw ‘Dŵr i fyw’. Byddwn yn canolbwyntio ar weithgareddau Gwyddoniaeth a byddwn yn dysgu am y tywydd a’r tymhorau, yn arnofio ac yn suddo a chyflyrau dŵr. Byddwn yn dysgu am yr afonydd sy’n agos i’n hysgol, sef Afon Gwy ac Irfon a’r nant Nant yr Arian. Bydd ffocws hefyd ar y Celfyddydau Mynegiannol, lle byddwn yn creu dawnsfeydd, cerddoriaeth a gwaith celf yn seiliedig ar thema dŵr. Yn ystod y tymor, byddwn yn dysgu sut mae dŵr yn cael ei ddefnyddio mewn gwahanol seremonïau crefyddol a phwysigrwydd dŵr yn ein bywydau.

P.E.

Fel dosbarth, byddwn yn ymgymryd â gweithgareddau corfforol 10 munud bob dydd. Yn ogystal â hyn, bydd ein sesiynau Addysg Gorfforol â ffocws yn cael eu cynnal ar brynhawn dydd Iau. Gofynnwn i’r plant ddod i’r ysgol yn gwisgo eu gwisgoedd Addysg Gorfforol.

Allan, allan ac i ffwrdd

Bydd ein sesiynau Allan, Allan ac i Ffwrdd (Dysgu Awyr Agored) yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth. Rydym yn annog plant i ddod â phâr o wellies i mewn a set o ddillad addas, i ni eu cadw yn yr ysgol am y tymor.

Rydym yn annog bwyta’n iach ac yfed yn ein hysgol ac yn gofyn i rieni ddarparu byrbryd ffrwythau a dŵr i’w fwyta a’i yfed yn ystod amser byrbryd.

Teacher – Mrs R Jones

Teaching Assistant – Mrs C Meadows