Dosbarth Irfon

Derbyn a Blwyddyn 1 – Ffrwd Gymraeg

Croeso nol i Ddosbarth Irfon! Rydw i, Miss Bethan Williams, Miss Emily Thomas a Mrs Enfys Davies wedi cael ein syfrdanu gan frwdfrydedd y plant dros y topic newydd, ‘Anifeiliaid Bach y Byd’. Dechreuon ni drwy drafod yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am anifeiliaid a’r hyn yr hoffem ei wybod am wahanol grwpiau o anifeiliaid.

Nid oedd y plant yn gallu credu eu llygaid un prynhawn Gwener pan ddychwelon nhw o ginio i ddod o hyd i olion traed blawd ar hyd y dosbarth! Roedd llawer o drafodaeth am yr hyn oedd wedi digwydd a beth ddylen nhw ei wneud nesaf. Fe wnaethon ni ddarganfod bod yr Iâr Fach Goch druan wedi bod yn chwilio amdanom gan ei bod wedi cael llond bol ac wedi penderfynu mynd ar streic! Fe wnaethon ni ddarllen y stori a darganfod bod ei ffrindiau yn ddiog iawn ac nad oeddent yn gweithio fel rhan o dîm. Penderfynodd y plant ar ffyrdd o helpu’r iâr a hefyd ffyrdd o wneud y ffrindiau yn fwy parod i helpu gyda gwahanol dasgau. Mae’r Iâr Fach Goch ar ei gwyliau nawr ar fferm Mrs Davies. Mae hi’n anfon negeseuon wythnosol atom a thrwy hyn rydym yn dysgu mwy am ffermio – sut mae ffermwyr yn gofalu am eu hanifeiliaid, beth mae’r anifeiliaid hyn yn ei ddarparu i bobl ac yn dysgu i ni sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi wedi gwneud ffrindiau gyda’r anifeiliaid anwes ar y fferm a byddwn yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn o anifeiliaid. Bydd ymweliad gan y llwynog lleol yn ein harwain i ddatblygu gwybodaeth y plant am anifeiliaid gwyllt. Byddwn yn trafod llawer o wahanol anifeiliaid gwyllt a sut i’w gwarchod.

Ein ffocws mewn gwersi iaith yw datblygu’r sgil o drafod a pherswadio. Byddwn yn parhau i ddatblygu mathemateg drwy’r cynllun Summit Maths. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu’r sgil o arian a byddwn yn sefydlu ein Siop Fferm ein hunain cyn bo hir.

Athrawes – Miss B Williams

Cynorthwywyr – Mrs E Davies, Miss E Thomas