Dosbarth Nant yr Arian

Dosbarth Derbyn – Ffrwd Saesneg

Croeso i Ddosbarth Nant yr Arian.

Ein hathrawes dosbarth ni yw Mrs Nichola Davies a’n cynorthwywraig yw Miss Kerrie McCarthy.

Byddwn yn dysgu drwy weithgareddau ymarferol sy’n seiliedig ar chwarae gyda grwpiau ffocws bach dan arweiniad oedolion neu’n gweithio’n annibynnol ar heriau syml yn Amser Enfys (dysgu annibynnol dan arweiniad ein plant).

Y tymor hwn, ein thema yw “Dŵr y Bywyd”.  Byddwn yn canolbwyntio ar weithgareddau Gwyddoniaeth a byddwn yn dysgu am y tywydd a’r tymhorau, yn arnofio ac yn suddo a chyflyrau dŵr. Bydd ffocws hefyd ar y Celfyddydau Mynegiannol a byddwn yn creu celf, dawnsfeydd a cherddoriaeth ar thema dŵr. Byddwn hefyd yn dysgu am y stori y tu ôl i’r nant y mae ein dosbarth wedi ei enwi ar ei hôl a’r afonydd yn Llanfair-ym-Muallt, sef Afon Gwy ac Afon Irfon. Yn ogystal, byddwn yn edrych ar sut mae dŵr yn cael ei ddefnyddio yn y seremonïau enwi mewn gwahanol grefyddau, gan ganolbwyntio ar Fedydd.

P.E.

Bydd ein gwers Addysg Gorfforol ar ddydd Iau y tymor hwn. Bydd y gwersi yn cael eu cynnal y tu allan a gofynnwn i’r plant ddod i’r ysgol yn eu cit Addysg Gorfforol ar y diwrnod hwn. Byddwn hefyd y tu allan ar gyfer ein sesiwn ‘Allan, allan ac i ffwrdd’ ar brynhawn Mawrth.

 

Athrawes – Mrs N Davies

Cynorthwy-ydd: Miss K McCarthy