Dosbarth Gwy
Blynyddoedd 1 a 2 – Ffrwd Gymraeg
Dosbarth Gwy yw’r dosbarth Bl.1a 2 yn y Ffrwd Gymraeg a enwir ar ôl Afon Gwy.
Croeso i Ddosbarth Gwy!
Ein topig ar gyfer y tymor hwn yw ‘Tedi bach ar Antur Mawr’. Yn ystod y tymor, byddwn yn edrych ar ein hardal leol presennol ac yn y gorffennol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar Stryd Fawr Llanfair-ym-Muallt, Y farchnad, yr hen ysgol/ysgol newydd ac Eglwys Santes Mair. Mae ymwelydd arbennig wedi cyrraedd y dosbarth (Arth Paddington) sydd eisiau dysgu am yr ardal leol. Yn dilyn hyn, aethom ar ein Taith Gerdded i edrych ar yr hyn sydd ar gael ar Stryd Fawr Llanfair-ym-Muallt i ddechrau ar ein topig.
Iaith a Mathemateg
Yn ystod y tymor, byddwn yn canolbwyntio ar wella sgiliau llafaredd y disgyblion drwy greadigrwydd. Byddwn yn ail-adrodd ein Taith i’r stryd fawr ar lafar, yn cynllunio ac yn adrodd stori greadigol gan ddefnyddio ‘Gwlad y Stori’, ac yn dysgu cyfarwyddiadau newydd yn ein gwers coginio.
Bydd pynciau mathemateg yn cynnwys geometreg, trin data a rhif. Ein ffocws mewn rhifau fydd dosrannu, lluosi, rhannu ac arian.
Ymarfer Corff
Bydd ein gwersi Ymarfer Corff bob Dydd Gwener. Bydd ein sesiynau yn seiliedig ar Ddawns. Cynhelir y gwersi yn y neuadd ac felly bydd angen iddynt wisgo’n briodol. Gofynnwn i’r plant ddod i’r ysgol yn eu gwisg Ymarfer Corff bob dydd Gwener.
Dysgu Awyr Agored
Rydym yn hynod ffodus bod Ffrindiau’r Ysgol wedi darparu dillad gwrth-ddŵr eu hunain i bob disgybl eu gwisgo yn ystod gweithgareddau awyr agored yr ysgol, mae hyn yn golygu nad oes angen i chi ddarparu’r rhain. Fodd bynnag, gofynnwn i chi ddod â phâr o welingtons i’ch plentyn (oni bai bod ganddyn nhw bâr yn yr ysgol eisoes). Bydd gweithgareddau awyr agored yn digwydd bob dydd, fodd bynnag, bydd Dydd Iau ar y Cae bob Dydd Iau.