Ffrindiau’r Ysgol

 

Mae Ffrindiau’r Ysgol yn griw ymorddgar o rieni a staff gwirfoddoledig sy’n cydweithio er mwyn i godi arian ar gyfer yr ysgol. Ein bwriad yw i gyfoethogi addysg y plant ac i hyrwyddo cysylltiadau cadarnhaol gyda’r gymuned a’r teuluoedd. 

Rydym yn codi arian drwy gynnal digwyddiadau, bod yn fentrus gyda syniadau newydd a chwlio am gefnogaeth grantiau.  Nid yn unig rydym yn codi arian yn y digwyddiadau yma ond mae’n dod â gymuned yr ysgol gyfan at ei gilydd. Digwyddiadau  fel disgo a gwyl haf i enwi ond rhai. Maen nhw’n waith caled ond mae gweld y plant yn mwynhau werth yr ymdrech. Mae mentrau fel ‘Dragon clothes recycling banks’, ‘easy fundraising’ a’r ‘party pack hire’ yn cyfrannu at yr achos.  
Anrhegion Nadolig, siwmperi i flwyddyn 6 sy’n gadael, perfformiadau, trafnidiaeth yw rhai o’r pethau rydym yn helpu i ariannu ac hefyd prosiectau mwy fel trawnsnewid yr ysgubor a’r Ystafell ddosbarth allanol. Rydym yn falch ein bod yn gallu cefnogi’r pethau yma.

Os hoffech chi helpu’r ffeindiau drwy ymuno gyda’r pwyllgor neu drwy wirfoddoli yn ein digwyddiadau, cysylltwch gyda ni. Rydym yn dwlu croesawu cefnogwyr newydd.

Charity no:  1199308
Email address: friendsofbuilthprimary@hotmail.com