Dosbarth Pen y Graig

Blynyddoedd 5 a 6  – Ffrwd Gymraeg

Y tymor hwn, mae ein thema wyddoniaeth ‘Creaduriaid Bach a Mawr ’ yn ymchwilio’r cysyniad o gyd-ddibyniaeth, gan helpu dysgwyr i ddeall sut mae pob peth byw – gan gynnwys bodau dynol – yn gysylltiedig.

Byddwn yn darganfod fwy am ecosystemau, gan ddysgu sut mae planhigion, anifeiliaid a’u hamgylcheddau yn cysylltu â’i gilydd. Yna byddwn yn ymchwilio i sut mae anifeiliaid wedi addasu i oroesi yn yr amgylcheddau maent yn byw ynddynt. Wrth i’r thema ddatblygu, byddwn yn edrych ar y bygythiadau sy’n wynebu ecosystemau gwahanol, gyda ffocws penodol ar ddatgoedwigo a’i effaith ar fywyd gwyllt a chynefinoedd.

Trwy’r dysgu hwn, bydd disgyblion yn datblygu gwerthfawrogiad o’r byd naturiol, gan gydnabod sut mae pethau byw yn dibynnu ar ei gilydd i oroesi, tra hefyd yn dysgu am ein cyfrifoldeb ni i ofalu  am yr amgylchedd.

Bydd Ymarfer Corff pob Dydd Gwener yn ystod y  tymor yma.

 

Athrawes – Mrs H Davies

Cynorthwy-ydd – Miss E Davies