Cylch yn yr Ysgol

Adroddiad Arolygiad CIW Cymraeg – Cylch yn yr Ysgol | Arolygiaeth Gofal Cymru

Ein Datganiad o Ddiben

Ein nôd yw sicrhau bod pob plentyn 3 oed (sy’n dechrau yn ein Cylch Meithrin y tymor sy’n dilyn ei benblwydd/ ei phenblwydd yn 3 oed) a phlant 4 oed, sy’n byw yn ardal Llanfair ym Muallt, gyda mynediad am ddim at wasanaeth addysg Y Dysgu Sylfaen o safon, mewn amgylchedd o ofal cyfeillgar, hyd at 3 awr pob diwrnod (lleiafrif o 2 awr), am uchafswm o 10 awr yr wythnos. Gan adeiladu at lwyddiant dull y Cylch Meithrin. Bydd darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chefnogaeth enfawr i blant a theuluoedd o bob cefndir ffynnu drwyr daith hon.

Datganiad o’n Gweledigaeth:

“Plant bach prysur ydym ni

Dysgu trwy chwarae – hwyl a sbri!”

Amdanon ni

Rydym yn Gylch Meithrin sy’n darparu addysg y cyfnod Sylfaen a gofal cyfeillgar o ansawdd uchel ar gyfer plant 3 hyd 5 oed a hynny drwy Gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru sy’n ategu dysgu drwy chwarae ac ymchwilio. Caiff amrywiaeth eang o weithgareddau chwarae eu cynllunio a chaiff pob un ei oruchwylio yn dda er mwyn hybu cynnydd ymhob ardal o ddatblygiad plentyn yn ogystal â chynnig amrywiaeth gyfoeth o brofiadau dysgu drwy hunan ddewis. 

 

Mae’r Cylch Meithrin yn elusen gofrestredig a gaiff ei gynnal gan bwyllgor gwirfoddol o rieni, gofalwyr a staff yr ysgol. Mae croeso i unrhywun ddod yn aelod o’r pwyllgor. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch gyda’r Pwyllgor am fwy o wybodaeth:

 llymcylchcommittee@gmail.com

 

Yn ein sesiynau boreuol, Estelle Wilcocks yw ein Harweinydd Chwarae, gyda Carys Price yn Ddirprwy Arweinydd Chwarae a Sonia Tighe yn Gynorthwyydd Chwarae.  Yn ein sesiynau prynhawn Sonia yw ein Harweinydd Chwarae.  Ein Person â Gofal o dan AGC yw ein Harweinydd Chwarae neu ein Dirprwy Arweinydd Chwarae pan fo’n Arweinydd Chwarae yn absennol.  Yr unigolyn cyfrifol yw Gareth Cornelius.

Mae ein staff wedi cymhwyso ac yn parhau i fynychu cyrsiau perthnasol i’r Dysgu Sylfaen. Mae gan bob aelod o’n staff dystysgrifau cyfredol mewn amddiffyn plant a chymorth cyntaf pediatreg.   

Gwybodaeth cyswllt

Os ydych angen cysylltu mewn argyfwng gyda’r Cylch Meithrin yn ystod sesiwn ffoniwch ein ffon symudol os gwelwch yn dda:

07849 835235. 

Ein cyfeiriad ebost ydy: cmllym@gmail.com

 

Ein sesiynau:

9.00-11:30yb Dydd Llun  – Dydd Iau Sesiynau boreuol; a

12.30-3.00yp Dydd Llun – Dydd Iau Sesiynau prynhawn. 

 

Bydd y Cylch Meithrin ar gau ar gyfer gwyliau a dyddiau hms yn unol âg Ysgol Gynradd Llanfair ym Muallt. Caiff y dyddiau hyn ei nodi yn ein Cylchlythyr ar ddechrau bob tymor neu maen’t ar gael hefyd ar safle wê Cyngor Sir Powys.  Os bydd y Cylch Meithrin yn cau unrhyw ddiwrnodau eraill, fe gewch eich hysbysu mewn pryd.  

 

Ein amcanion

  • I gynyddu addysg y plant drwy ddarparu profiadau diogel a chyfoethogi’r dysgu drwy’r Cwricwlwm i Gymru a chymdeithasu.  Bydd y gweithgareddau yn darparu cyfleoedd I’r plant gyfathrebu drwy Gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, ac ychydig o Saesneg, er mwyn cefnogi plant sy’n ymuno âg Ysgol ddwyieithog. 

  • I gefnogi a diogelu iechyd meddyliol, corfforol a emosiynol da i’r plant. 

  • I ddarparu amgylchedd cynnes, diogel a chyfeillgar.

  • I ddarparu staff cyfeillgar, brwdfrydig a gofalgar sydd bob amser yn barod i weithio gyda’r gymuned eang. 

  • I hybu’r plant i ddysgu drwy chwarae gan ddefnyddio’r ddwy ardal ddysgu, yr ardal tu fewn a’r ardal tu allan, gyda chefnogaeth yr Arweinydd Chwarae. 

  • I ddarparu cyfle I’r plant I ddatblygu eu sgiliau cymdeithasu drwy gydymweithio gyda phlant eraill. 

  • I baratoi’r plant ar gyfer pontio cadarnhaol i’r Ysgol Gynradd. 

 

Dyddiadur Dysgu Eich Plentyn 

Rydym yn hybu’n barhaol eich plentyn i ddatblygu ar sail barhaus.  Croesäwn fewnbynnau gan rieni a gwarchodwyr er mwyn ein galluogi ni i adeiladu darlun cyfannol o bob plentyn unigol fel y gallwn deilwra’r gefnogaeth orau ar gyfer eu anghenion.  Mae croeso i chi drafod datbygiad eich plentyn neu ofyn am gopi o’i adroddiad datblygol ar unrhyw amser.

 

Ansawdd y Gofal

Yn unol â gofynion AGC (Arolygwyr Gofal Cymru), rydym yn monitor ansawdd y gofal yn flynyddol drwy ddarparu adroddiad ysgrifennedig a gaiff ei rannu gyda’n rhieni/gofalwyr.  I’n cynorthwyyo yn y broses hon rydym yn anfon holiaduron allan yn flynyddol gan groesawu unrhyw gyfraniadau sydd gennych, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol.  Galluogai hyn ein bod yn monitor, adolygu, gwella ac yn parhau i gadw ansawdd y gofal i’r safon uchaf yma yn ein Cylch Meithrin. Hefyd, mae copiau o adroddiadau diweddaraf gan AGC ac Estyn ar gael ei chi ei gweld a’i darllen yn y Cylch Meithrin. 

Dechrau yn y Cylch Meithrin 

Cyrraedd ac arwyddo – Ar ddechrau bob sesiwn mae’n ofynnol eich bod yn dod a’ch plentyn i’r Cylch Meithrin drwy brif fynedfa’r ysgol gan arwyddo fod eich plentyn wedi cyrraedd y Cylch Meithrin.  Rydym eisiau eich plentyn deimlo’n saff, diogel,ac yn hapus yn ein Cylch Meithrin, felly rydym yn cynnig i rieni/gofalwyr I aros gyda’r plentyn yn ystod ein ‘sesiynnau blasu’ ac, os oes angen, yn ystod y cyfnod setlo cyntaf.  

 

Casglu – Pan yn casglu eich plentyn carwn eich bod yn aros tu allan i brif fynedfa’r Ysgol ac fed down a’ch plentyn atoch chi. Mae hyn oherwydd rhesymau diogelu ac amddiffyn plant a theimlwn fod y ffordd yma yn gweithio’n dda iawn.  Os carech chi gael sgwrs gydag aelod o’r staff, mae croeso i chi ddod i’r Cylch Meithrin yn dilyn y sesiwn.  Carwn eich bod yn rhoi gwybod i aelod o staff o flaen llaw os bydd yna rhywun gwahanol yn casglu eich plentyn a’r ôl sesiwn yn y Cylch Meithrin, fe fyddwn yn gofyn am gyfrinair pendodol cyn rhyddhau’r plentyn yw gofal. 

 

Gweler esiampl o drefn nodweddiaol mewn sesiwn yn ein Cylch Meithrin: 

BRASLUN O SESIWN

AMSER

GWEITHGAREDD

NODIADAU

09.00

Croesawy’r plant a’r rhieni/gofalwyr.  Rhieni/gofalwyr i arwyddo dros y plant.  Bydd y staff ar gael i gynnal sgwrs gyda’r rhieni os dymunir. Bydd y plant yn mynd i’r Cylch Meithrin yn annibynnol gan ddod o hyd i’w peg gyda’i henw arni er mwyn gosod ei cot/bag. Sesiwn byr gyda pawb drwy ganu cân groeso, cân y tywydd, cofrestr a chyfri’r plant. (Cân benblwydd a thrafodaeth os yn briodol) Plant i hunan gofrestru drwy ddod o hyd yw afal a’i enw/a’i henw arno. 

Y plant fydd yn arwain ar hyd y sesiwn. 

09.00 -10.55

 

9.30 ymlaen

Chwarae yn nol cyfarwyddyd y plentyn gyda ‘gwahoddiad I ddysgu’, ac ochr yn ochr gyda hyn bydd cyswllt i arwain at arsylwadau o’r wythnos flaenorol, dewis y plant, neu ddathliadau cyfredol.  Gall hyn gynnwys sesiwn gerddorol, SALLEY, Llythrennau a Synnau, grwpiau ymyrraeth.  Yn dilyn y gwaith grwp bach bydd y plant yn chwilio am ei ‘Carreg’ gyda’i enw/ei henw arno er mwyn dangos sut mae’nt yn teimlo heddiw..

 Dydd Mawrth – Ymarfer Corff – bydd grwpiau bychain yn mynd i neuadd yr Ysgol (neu tu allan dibynnu ar y tywydd) ar gyfer sesiwn gweithgareddau corfforol megis dawnsio, ioga, beiciau cydbwysedd, Traed Prysur. 

Mynediad agored tu mewn / tu allan oni bai fod tywydd garw. Fel arall, bydd grwpiau bach yn cylchdroi gyda chefnogaeth oedolion er mwyn ei helpu I wisgo dillad addas ar gyfer y tu allan. 

10.00 ymlaen

Amser Byrbryd sy’n treiglo – caiff y plant eu hybu i olchi eu dwylo yn annibynnol ac yna casglu eu ffrwythau o’i bagiau.  Cynnigir ddiod i’r plant ac fe’i hannogir i dywallt ei hunnain.  Bydd pob plentyn yn tacluso a’r ôl gorffen gan roi’r gwastraff bwyd yn y bin ailgylchu, a gosod ei platiau a’i cwpannau yn y ddesgil olchi.  Bob wythnos cynnigir bwyd gwahanol i’r plant ei flasu a bydd pob un yn nodi ei hoffter/ cas flas.  Yn dilyn byrbryd, bydd pob plentyn yn darganfod ei afal gyda’i enw arno a’i roi ar y hysbysfwrdd yn y cyntedd.

10.55

Amser Tacluso –Annogwn pob plentyn i dacluso

11.00

Amser Cylch/ Canu – Os yw’r niferoedd yn uchel, rhennir y plant i ddau grwp.  Byddwn yn cylchdroi y grwpiau i ganu/adrodd stori/ ioga/ yn ystod gweithgaredd Amser Cylch. 

Gall un grwp ddefnyddio’r amser tu allan neu’r cyntedd.

11.25 -11.30

Yn annibynnol bydd y plant yn paratoi i fynd am adref drwy wisgo eu cotiau a chasglu eu bagaiu tra fod aelodau o’r staff yn rhoi eitemau i’r plant fynd adref gyda nhw. Pawb yn canu Hwyl Fawr ac yna bydd pob plentyn yn eistedd ar y fainc nes caiff ei henw ei alw.

11.30

Amser Mynd Adref – dyma gyfle i rieni sgwrsio gyda’r staff pe dymunir.

 

Mae hwn yn adlewyrchu braslun o sesiwn nodweddiadol yn ein Cylch Meithrin, ond fe gaiff ei addasu mewn ymateb i ddeuheuadau’r plant, tywydd, digwyddiadau arbennig ac yn y blaen. 

Amser Byrbryd

Gofynnwn yn garedig a fyddech yn gallu anfon darnau o ffrwythau sydd wedi ei torri yn barod gyda’ch plentyn i bob sesiwn yn y Cylch Meithrin.  Rydym yn cynnig llaeth a dŵr ar gyfer y plant fel y gallent ei dywallt yn annibynnol.  Annogai hyn fwyta’n iach, sgiliau cymdeithasu ac annibynnol da yn ogystal a chynorthwyyo’r plant i fynd ati i flasu bwydydd newydd.  

Dillad 

Rydym yn gwerthu grysau t, siwmperi a chargdian gyda logo’r Cylch Meithrin arno.  Ond nid yw y rhain yn orfodol yw prynu nac yw gwisgo, ond gofynnwn i chi wisgo eich plentyn yn addas gan yr ydym yn hoff iawn o chwarae gyda dŵr, paent a mwy!! Rydym hefyd yn mynd allan ymhob tywydd felly gofynnwn i chi sicrhau eich bod yn anfon cot (het haul ac eli haul yn y misoedd cynhesach) gyda’ch plentyn i bob sesiwn. Gallwn gadw yr eitemau hyn yn y Cylch Meithrin hefyd os yw’n haws arnoch. 

Salwch

  • Os yw eich plentyn yn sâl yn ystod sesiwn yna bydd aelod o staff yn cysylltu gyda chi.  Yn y cyfamser, bydd ef/hi yn cael ei gysuro gan aelod o staff ac yn cael ei fonitro hefyd, a bydd cyfle i’r plentyn orffwyso mewn man tawel. 

  • Os bydd eich plentyn yn chwydu neu gyda’r dolur rhydd gofynnwn i chi gadw ef/hi adref am oleiaf 48 awr yn dilyn diwedd y symptomau. 

  • Os na all eich plentyn fynychu sesiwn oherywdd salwch, gofynnwn yn garedig I chi gysylltu gyda’r Cylch Meithrin I roi gwybod iddym mor fuan ag y bo’r modd. 

  • Os oes angen meddyginiaeth ar eich plentyn yn ystod sesiwn, fe allwn ei weinyddu yn dilyn ein polisi. 

 

Polisiau’r Cylch Meithrin

Mae gan y Cylch Meithrin amryw o bolisiau sy’n effeithio ar nifer o weithgarddau’r Cylch Meithrin.  Mae’r prif rai wedi eu crynhoi isod ac maen’t ar gael i’w gweld yn llawn yn y Cylch Meithrin ac fe’u ebostiwyd atoch cyn bod eich plentyn yn dechrau yn y Cylch Meithrin. Awgrymwn eich bod yn darllen y rhain cyn bod eich plentyn yn dechrau yn y Cylch Meithrin.  Yn ogystal, trwy arwyddo cytundeb y Cylch Meithrin rydych yn cytuno gyda’r polisiau. 

Iechyd a Diogelwch

Polisi’r Cylch Meithrin yw i gydymffurfio gyda deddfwriaeth statudol Iechyd a Diogelwch gan gymryd pob cam synhwyrol ac ymarferol i sicrahu Iechyd a Diogelwch pawb o fewn y Cylch Meithrin. 

 

Mynediad 

Mae’n ofynnol i bob rhiant anfon cais drwy Gyngor Sir Powys, a chwblhau’r gwaith papur angenrheidiol sy’n ofynnol i’r Cylch Meithrin, cyn y gallwn gytuno ar ddyddiad dechrau. 

Ein nôd ydy cynnig gofal ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i blant o 3 oed hyd at ddechrau’r Ysgol a chroesawy unrhyw blentyn o fewn yr oedran hwn i fynychu. Rydym yn cydymffurfui gyda Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ynglyn â nifer o blant gaiff ei dderbyn a’i hoedran. Rydym yn gofrestredig i gael hyd at 24 plentyn ymhob sesiwn.  

 

Lleoliad ac Adnoddau 

Mae Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol wedi ei leoli o fewn Ysgol Gynradd Llanfair ym Muallt ac mae’r adnoddau’n cynnwys:  

  • Defnydd unigryw o Gylch Meithrin yn llawn adnoddau a gwagle. 

  • Mynedfa i ardal tu allan caëdig a diogel. Ceir mynedfa iddo o brif ystafell chwarae y Cylch Meithrin. Yn yr ardal hon mae  cyfarpar chwarae anturus cyflawn, pwll tywod enfawr, ac amryw o adnoddau ar gyfer darpariaeth barhaus a dyrchafedig. 

  • Mynedfa I gaeau caëdig yr Ysgol a llwybrau anturus tu allan. 

  • Toiledau a sinciau addas i blant. 

  • Ardal cegin I baratoi diodydd a byrbryd. 

  • Adnoddau staff arwahan gan gynnwys mynedfa I brif ystafell staff yr Ysgol a’r toiledau. 

Adolygir yr offer yn gyson ac ystyrir anghenion y plant sydd yn ein gofal wrth fynd ati i brynu unrhyw offer ac adnoddau gofynnol. 

Anghenion Ychwanegol

Ein nôd yw rhoi’r cyfle i bob plentyn i elwa drwy addysg cyn cyfnod Ysgol beth bynnag yw anghenion ef/hi, ac rydym yn ymroddedig i roi sylw’n llawn i bob plentyn gydag anghenion ychwanegol. 

Hybwn adnabyddiaeth cynnar ac ymyrraeth addas ar gyfer plant sydd gydag anghenion ychwanegol gan hybu cydraddoldeb o gyfleoedd drwy sichrau gwasaneth cynhwysol llawn. 

Rydym yn cydnabod bod anghenion plentyn yn newid ac yn datblygu ac rydym wedi ymrwymo i fonitro ac i sicrhau fod ein gwasanaeth yn cwrdd â gofynion y plentyn yn barhaol. 

 

Amddiffyn Plant

Credwn bod hapusrwydd, diogelwch a lles pob plentyn yn bwysig. Bydd ein Pwyllgor Rheoli a phob aelod o staff yn dilyn gweithdrefnau Amddiffyn Plant mewn unrhyw achos  o gamdrin a ddrwgdybir ac byddent yn cyfeirio i’r asiantiaeth briodol os oes yna unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn yn cael ei anafu neu mewn risg  

 

Cyfle Cyfartal

  • Ein nôd yw sicrhau bod pob rhiant/gofalwr fynediad I’n cyflusterau beth bynnag yw eu cefndir ieithyddol a bod cyfle iddynt gyfrannu tuag at weithgareddau’r Cylch Meithrin. 

  • Ein nôd yw sicrhau bod pob agwedd o’n gweithgareddau yn hybu cyfle cyfartal ar gyfer pob unigolyn beth bynnag yw eu cenedlaetholdeb, lliw, hil, rhyw, anabledd, crefydd, oed, statws priodasol neu ddosbarth cymdeithasol. 

 

Rheoli Ymddygiad

  • Ein nôd yw i ddarparu amgylchedd yn seiliedig ar ganllawiau clir, teg a chyson sy’n hybu dealltwriaeth plentyn o ymddygiad derbyniol.

  • Rydym yn hybu ymddygiad cadarnhaol ac yn sicrhau fod cysondeb yn y dulliau â ddefnyddir. 

  • Caiff ymddygiad da ei gydnabod a’i adnabod bob amser. 

 

Gweithdrefnau Cwyno a Chanmol 

Croesawn eich sylwadau am ein Cylch Meithrin fel y gallwn barhau i ddatblygu. Os ydych yn anhapus gydag unrhyw agwedd o’n gwaith a carech fynegi hyn, yna gofynwn i chi fabwysiadu’r gweithdrefn canlynol, a gaiff ei nodi yn ein polisi Canmol a a chwyno hefyd: 

 

  • Cysylltwch âg Arweinydd Chwarae ein Cylch Meithrin neu ein Unigolyn Cyfrifiol unai ar lafar neu yn ysgrifennedig er mwyn nodi’r gŵyn.  (Caiff yr unigolyn sy’n cwyno wybod y gallent gyfeirio yn syth I Arolygaeth Gofal Cymru (AGC)). 

  • Os nad yw’r mater wedi ei sortio yn foddhaol yna caiff y mater ei gyfeirio yn ysgrifennedig I’r Unigolyn Cyfrifol a Phwyllgor y Cylch Meithrin. 

  • Os yw’r mater yn parhau heb ei ddatrys, yna dilyr cysylltu gyda AGC drwy’r cyfeiriad canlynol:

Swyddfa Cenedlaethol AGC, 

Adeiladau’r Llywodraeth, 

Picton Terrace, 

Caerfyddin. 

SA31 3BT

Rhif ffôn: 0300 7900 126,  

E bost: ciw@gov.wales

Bydd pob cŵyn yn cael ei ddelio gyda sensitifrwydd ac yn gyfrinachol.  Bydd y Cylch Meithrin yn monitor bob cŵyn ac yn ymgeisio I ddatrys pob un mewn modd sensitif ac mor fuan â phosibl. 

Caiff ein Datganiad o Ddiben ei adolygu’n flynyddol ynghyd â’n Polisiau a’n Gweithdrefnau a byddwn yn rhoi gwybod I AGC, fel mae’n ofynnol, am unrhyw newidadau.