Mae dechrau’r ysgol yn garreg filltir gyffrous, ac rydym wedi ymrwymo i wneud y cyfnod pontio i’r ysgol mor esmwyth a chadarnhaol â phosibl i blant a’u teuluoedd. Rydym yn croesawu rhieni a gofalwyr sy’n ystyried ein hysgol i fynychu ein Noson Agored ym mis Tachwedd bob blwyddyn, lle cewch gyfle i gwrdd â’r staff, edrych o gwmpas ein hamgylchedd dysgu a dysgu mwy am fywyd yn ein hysgol. Mae teuluoedd plant sy’n bwriadu dechrau’r ysgol ym mis Medi y flwyddyn ganlynol hefyd yn cael eu gwahodd i Noson Agored Pontio ym mis Mehefin, ac yna tair Bore Pontio ym mis Gorffennaf. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i blant ddod yn gyfarwydd â’u hystafell ddosbarth newydd, eu hathrawon a threfn yr ysgol cyn iddynt ddechrau ym mis Medi. Os hoffech ragor o wybodaeth am ein hysgol, cyngor ynglŷn â gwneud cais am le, neu os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â swyddfa’r ysgol ar office@builth.powys.sch.uk.

 

Os ydych yn ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn, efallai y bydd y dogfennau isod yn ddefnyddiol, gan eu bod yn darparu gwybodaeth am fanteision dysgu dwyieithog, beth i’w ddisgwyl gan addysg cyfrwng Cymraeg, a sut y gall gefnogi datblygiad eich plentyn a’i gyfleoedd yn y dyfodol.

Destination_Bilingual_Booklet

Siarad-dwy-iaith

Further information about Welsh medium education

 

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais am le yn ein hysgol ar y wefan hon: Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol – Cyngor Sir Powys