Gwybodaeth i deuluoedd newydd yn dechrau yn y Derbyn

Dechrau’r daith yn y Derbyn

Croeso  i Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt. Dyma ychydig o wybodaeth am ein diwrnod arferol a’r pethau fydd angen ar eich plentyn pan fydd e/hi yn dechrau yn llawn amser ym mis Medi gyda ni.


Cyrraedd a Gadael yr Ysgol

Mae Ysgol yn dechrau am 8:50yb ac mae’r plant yn dod trwy’r gatiau dwbl i’r dde o’r adeilad unrhyw amser o 8:40yb. Bydd Mr Cornelius (Pennaeth) neu Mrs Michelle Davies ( Dirprwy Bennaeth) yn croesawu’r plant wrth y gât ac yna byddant yn cerdded i gwrdd a’i ffrindiau. Yn y dyddiau cynnar, gall rieni ddod â’r plant i fewn i’r iard, ond wrth iddynt ddod i arfer, rydym yn annog y plant i ddod mewn yn annibynnol. Mae’r plant yn mynd i’r dosbarth trwy ddrws allanol y dosbarth. Bydd yr athrawes ddosbarth yn croesawu’r plant yno. 


Ar ddiwedd y dydd

Mae’r gatiau yn agor am 3:15yp er mwyn i rieni ddod mewn i’r iard. Bydd Miss Williams yn rhyddhau plant Ffrwd Gymraeg  at y rhieni wrth ddrws yr ystafell gotiau ar iard y cyfnod sylfaen.Bydd  Mrs N. Davies  yn gwneud yr un peth drwy ddrws ei hystafell ddosbarth Yn swyddogol mae’r diwrnod yn gorffen am 3:25yp.


Amser egwyl

Mae egwyl 15 munud yn y bore ar yr iard ac yna  yn syth ar ôl amser egwyl, mae amser ffrwythau. Bydd y plant yn gallu bwyta darn o ffrwyth maent wedi dod gyda nhw o gartref. Tra’n bwyta ffrwythau, bydd y plant yn gwrando ar stori neu ddarn o gerddoriaeth.


Amser cinio

Am 11:45yb,  bydd plant y Dosbarth Derbyn yn y ddau ffrwd yn mynd i’r neuadd am ginio. Bydd aelod o staff a’r cynorthwywyr cinio yno i helpu’r plant gyda’i bwyd (e.e. torri bwydydd lan, agor pecynnau a.y.y.b) Am y chwarter awr cyntaf, dim ond plant y dosbarth Derbyn bydd yn y neuadd fel bod sylw’r staff i gyd ar blant y Dosbarth Derbyn tan bod Blwyddyn 1 a 2 yn cyrraedd. Maent yn cael ei annog i fwyta cymaint ag y maent yn dymuno cyn mynd allan i chwarae.

Mae hwn yn amser pwysig i’r plant. Maen nhw’n datblygu sgiliau personol maen nhw wedi dechrau dysgu gartref, fel torri bwyd gyda chyllell, arllwys diod o ddŵr, tacluso bocs bwyd, ymddwyn yn briodol wrth y bwrdd a.y.y.b.

Mae ‘ch plentyn yn gallu cael cinio ysgol neu’n gallu dod â phecyn bwyd. Mae modd dewis cyfuniad o’r ddau. Mae bwydlen 3 wythnos ar gael i chi weld beth sydd ar y fwydlen. Mae Powys yn defnyddio system ParentPay i dalu am ginio ysgol a byddwch yn derbyn manylion yn agosach at yr amser am hyn. 


Gwisg ysgol

Siwmper gwyrdd ysgol, trowsus llwyd/ du, crys t polo gwyn/ nefi, esgidiau du. Mae modd archebu siwmperi ar y we( byddwch yn derbyn manylion yn ystod wythnos y plant yn yr ysgol ym mis Gorffennaf). A fyddai modd i chi labelu pob dilledyn os gwelwch yn dda? – diolch. Mae enwau yn diflannu yn y golch felly sicrhewch ein bod dal yn gallu darllen yr enwau ar ol golchi’r dillad ychydig o weithiau.


Gwisg ymarfer corff

Ar gyfer ymarfer corff, bydd angen siorts, crys T, esgidiau ymarfer corff ac hefyd siwmper a throwsus ar gyfer ymarfer corff tu allan yn y tywydd oer. Ym mis Medi, byddwn yn rhoi gwybod pa ddiwrnodau bydd Ymarfer corff. Byddant yn gallu gwisgo eu dillad ymarfer corff i’r ysgol ar y diwrnod penodol.


Dillad dysgu tu allan

Mae dysgu tu allan yn rhan bwysig o’n cwricwlwm – beth bynnag yw’r tywydd! Bydd angen côt a throwsus glaw a phâr o welis. Hoffwn gadw popeth yn yr ysgol am y tymor. 


Bagiau Ysgol/ Bagiau darllen

Mae’r plant yn hoffi dod â bag i’r ysgol i gario eu ffrwythau, potel, cofnod darllen a llyfrau darllen sy’n cael ei rhoi iddynt. Mae unrhyw fag yn iawn ond mae yn fagiau darllen ar werth yn swyddfa’r ysgol am £4.00 yr un os ydych yn dymuno prynu un. 


Rydym yn disgwyl ymlaen i groesawu’ch plentyn i’n hysgol ac i adeiladu partneriaeth cadarnahol rhwng y cartref a’r ysgol gyda chi fel teulu. Cysylltwch â ni os oes gyda chi unrhyw gwestiynau:

Rhif ffôn: 01982 553600

Ebost: office@builth.powys.sch.uk

Diolch yn fawr.